Sesiwn Wybodaeth Rithwir i Ôl-raddedigion
Dydd Sadwrn 18 Mawrth 2023 - 10:30-12:00 (GMT)
Gallwch bellach gadw lle ar gyfer y Sesiwn Wybodaeth Rithwir i Ôl-raddedigion. Mae'r digwyddiad hwn yn sesiwn galw heibio fer er mwyn i chi ymuno â ni unrhyw bryd rhwng 10:30 a 12:00 (GMT) ddydd Sadwrn 18 Mawrth 2023. Byddwn ni'n agor y sesiwn â chyflwyniad am 30 munud a fydd yn rhoi trosolwg byr o astudio ôl-raddedig gan gynnwys graddau Meistr a PhD, ac opsiynau cyllido sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd gweddill y sesiwn yn cael ei neilltuo ar gyfer ateb eich cwestiynau'n fyw. Bydd staff o’r tîm Derbyn a’n Myfyrwyr Llysgennad ar gael i ateb eich cwestiynau.
Sylwer, ni fydd neb o’r adrannau academaidd yn bresennol yn y digwyddiad hwn.
*Oherwydd bod nifer gyfyngedig o leoedd ar gael yn y Sesiwn Wybodaeth, argymhellwn eich bod chi’n cadw eich lle cyn gynted â phosib.