Beth yw Undeb y Myfyrwyr?
Mae'r UM yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr, sy'n golygu ein bod ni yma i gynrychioli ein haelodau.
Fel myfyriwr Prifysgol Abertawe, rwyt ti'n aelod o UM yn awtomatig, felly rwyt ti'n rhan o'n cymuned wych, fawr, amrywiol! Trwy ni, gallet ti ymuno â chymdeithasau a chlybiau chwaraeon, cael mynediad at gefnogaeth am ddim yn ein Canolfan Cyngor, mwynhau bwyd a diodydd rhad yn ein bariau, a dod i holl ddigwyddiadau gorau'r flwyddyn.
Mae gennym ni chwe Swyddog Llawn-amser etholedig, ac maen nhw’n fyfyrwyr sy'n cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr bob blwyddyn i gynrychioli myfyrwyr o ran popeth sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol. Maen nhw'n sicrhau bod y Brifysgol yn ymwybodol o faterion sy'n bwysig i ti, yn cynnal ymgyrchoedd i ddathlu ein cymuned o fyfyrwyr, a brwydro dy gornel. Felly os oes gennyt ti unrhyw gwestiynau ar eu cyfer, cysyllta â nhw.
Yn y bôn, ein cenhadaeth yw rhoi'r profiad gorau posibl i ti tra dy fod ti'n fyfyriwr yma, a rhoi'r holl gyfleoedd posib i ti lwyddo yn yr hyn a ddaw ar ôl i ti ein gadael.
Helô, Katie ydw i, eich Llywydd Undeb y Myfyrwyr ar gyfer eleni!
Shwmae! Katie ydw i, fi yw Llywydd UM dros y flwyddyn academaidd hon. Astudiais Ddaearyddiaeth yn Abertawe, a thrwy gydol fy amser yn astudio, roeddwn i'n Gydlynydd Cymraeg ar gyfer y Gymdeithas Ddaearyddiaeth, a Chynrychiolydd cyfrwng Cymraeg Daearyddiaeth. Roeddwn i'n llysgennad i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â'r Brifysgol, ac roeddwn i'n gweithio i Undeb y Myfyrwyr am dair blynedd mewn sawl rôl.
Fel Llywydd, rwy'n arwain y tîm o Swyddogion Etholedig ac Undeb y Myfyrwyr yn gyffredinol. Rwy'n sicrhau bod dy Undeb yn gynhwysol ac yn dathlu ei amrywiaeth. Rwy'n amddiffyn ac yn ymestyn hawliau holl fyfyrwyr Abertawe, a fi yw'r cyswllt allweddol â'r Brifysgol, UCM a'r gymuned.
Os wyt ti am gysylltu â fi, neu unrhyw un o'r Swyddogion Llawn-amser, anfona e-bost at fto@swansea-union.co.uk.
Beth yw rôl UCM?
UCM yw'r mudiad ehangach i fyfyrwyr – sef Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Maen nhw yno i gynrychioli pob myfyriwr yn y wlad. Rydych hefyd yn aelod o UCM fel aelod o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
Beth yw cerdyn TOTUM UCM? A ble gallaf gael gafael ar un ohonynt?
Cardiau TOTUM UCM yw'r cardiau enwog sy'n cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr – gallwch eu defnyddio mewn siopau ar y stryd fawr ac ar-lein i arbed arian wrth siopa dillad, mynd i'r sinema, prynu tocynnau trên a llawer mwy.
Am £12 yn unig, gallwch fanteisio ar y gostyngiadau hyn am flwyddyn gyfan – byddwch wedi cael gwerth eich arian ar ôl ei ddefnyddio lond llaw o weithiau.
Gallwch archebu eich cerdyn chi neu alw heibio Undeb y Myfyrwyr os hoffech fanteisio ar y gostyngiadau ar unwaith. Gallwch hefyd brynu un ar wefan UCM.
Swyddogion Llawn-Amser Undeb y Myfyrwyr
Mae Swyddogion Llawn Amser yn Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli myfyrwyr o ran popeth am fywyd Prifysgol.
Bob blwyddyn fel myfyriwr yn Abertawe byddwch yn cael cyfle i sefyll am un o'r swyddi Swyddog Llawn Amser.
Mae pleidlais ddemocrataidd yn digwydd bob mis Mawrth ac mae'r Swyddogion Llawn Amser yn cychwyn eu rolau yn yr Haf yn barod i fynd i'r afael â'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.
Mae'n syml. Os cewch eich ethol ac nad ydych eto wedi cwblhau eich gradd, gallwch gymryd blwyddyn o'ch astudiaethau i wneud y gwaith. Os cewch eich ethol a'ch bod yn eich blwyddyn olaf o astudio ar y pryd, gallwch aros yn Abertawe am flwyddyn arall i wneud y gwaith!
Y tîm Swyddogion Llawn Amser yw'r llais i fyfyrwyr sy'n mynd â'ch adborth yn ôl i'r Brifysgol a sicrhau bod rhywbeth yn cael ei wneud yn ei gylch.
Cadwch lygad ar Facebook Undeb y Myfyrwyr am wybodaeth am yr etholiadau sydd ar ddod a sut y gallwch chi gymryd rhan.